15/10/2026
Cyfle tenantiaeth tir ger Pumsaint
Cwm Einon
Ar gael trwy tender | Tir ac adeiladau yn unig
179.87 hectar o dir pori mynydd eang.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer tir pori gydag adeiladau fferm a chyfleusterau trin anifeiliaid. Nid oes tŷ wedi’i gynnwys.
Dim ond trwy apwyntiad y gellir ymweld â’r tir.
Dilynwch y ddolen isod i'n gwefan i weld a lawrlwytho'r daflen.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Alison Harvey : 07498 984313