Cyfreithwyr Lloyd Evans & Hughes Solicitors

Cyfreithwyr Lloyd Evans & Hughes Solicitors Wedi ei leoli yn Penygroes, Caernarfon. Cyfreithwyr arbennigol a phrofiadol all gynghori unigolion, teuluoedd a busnesau
Legal Firm based outside Caernarfon.

Specialist and experienced solicitors who advice individuals, families and businesses.

SWYDDOG GWEINYDDOL📍 Penygroes, Gwynedd �💷 Cyflog: £26,000 - £30,000 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad) �🕒 Swydd lawn ams...
19/08/2026

SWYDDOG GWEINYDDOL

📍 Penygroes, Gwynedd �💷 Cyflog: £26,000 - £30,000 y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad) �🕒 Swydd lawn amser
�📈 Cyfleoedd datblygu a chynnydd gyrfa
Ynglŷn â'r Swydd

Mae Lloyd Evans & Hughes Cyfreithwyr yn chwilio am Swyddog Gweinyddol trefnus, brwdfrydig a phroffesiynol i ymuno â'n tîm cynyddol.

Bydd y rôl yn cynnig amrywiaeth eang o ddyletswyddau gweinyddol a chefnogi'r tîm ar draws y busnes o ddydd i ddydd. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd yn mwynhau gweithio gyda phobl, sydd â sgiliau trefnu rhagorol ac sy'n awyddus i gyfrannu at lwyddiant busnes proffesiynol.

Nid yw profiad cyfreithiol blaenorol yn hanfodol. Byddai'r swydd yn addas i ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys unigolion sydd eisiau adeiladu gyrfa mewn gweinyddiaeth, gwasanaeth cwsmeriaid neu sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa yn y proffesiwn cyfreithiol yn y dyfodol.

Prif Gyfrifoldebau

Rheoli galwadau ffôn ac ymholiadau cwsmeriaid.�
Cynorthwyo gyda gweinyddu swyddfa o ddydd i ddydd.�
Trefnu apwyntiadau, dyddiaduron a chyfarfodydd.�
Paratoi a rheoli dogfennau a gohebiaeth.�
Cynnal cofnodion a systemau ffeilio.�
Cefnogi'r cyfarwyddwyr a'r staff gyda thasgau gweinyddol amrywiol.�
Cydlynu â chyflenwyr a chysylltiadau allanol pan fo angen.�
Sicrhau bod y swyddfa'n cael ei rhedeg yn effeithlon ac yn broffesiynol.�
Yr Ymgeisydd Delfrydol

Bydd gennych:

✅ Sgiliau cyfathrebu rhagorol �✅ Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf �✅ Sylw manwl i fanylion �✅ Hyder wrth ddefnyddio pecynnau Microsoft Office a systemau cyfrifiadurol �✅ Agwedd gadarnhaol a pharodrwydd i ddysgu �✅ Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel rhan o dîm

Byddai'n fantais:

Gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.�
Profiad mewn gweinyddiaeth neu wasanaeth cwsmeriaid.�
Diddordeb mewn datblygu gyrfa o fewn amgylchedd proffesiynol neu gyfreithiol.�
Beth rydym yn ei gynnig
Cyflog cystadleuol o £26,000 - £30,000.�
Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.�
Cyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol.�
Cyfle i ddatblygu gyrfa hirdymor o fewn cwmni sy'n tyfu.�
Cymysgedd o waith diddorol ac amrywiol bob dydd.�
Sut i Ymgeisio

Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at:
Sara Lloyd Evans �📧 [email protected]
Dyddiad cau: 18.09.2026

Mae ein harwyddion newydd i fyny yn 10 Heol y Dŵr, Penygroes ac rydyn ni wrth ein boddau gyda’r canlyniad! Diolch yn faw...
31/07/2026

Mae ein harwyddion newydd i fyny yn 10 Heol y Dŵr, Penygroes ac rydyn ni wrth ein boddau gyda’r canlyniad! Diolch yn fawr i Designer Signs am waith gwych unwaith eto. 👏🏻

Rydym erbyn hyn wedi symud yn llwyr i 10 Heol y Dŵr (ddim mwy yn rhif 20). Rydym wedi bod ym Mhenygroes ers 5 mlynedd bellach - ble mae’r amser wedi mynd! Mae’n lle rydym yn falch iawn o fod yn rhan ohono, ac rydym yn ddiolchgar i fod yn rhan o gymuned leol gref yma yng nghalon Dyffryn Nantlle. 💛

Our new signage is now up at 10 Heol y Dŵr, Penygroes and we’re delighted with how it’s turned out. Many thanks to Designer Signs for another excellent job.👏🏻

We are now fully based at 10 Heol y Dŵr (no longer at number 20). It’s hard to believe we have been in Penygroes for over 5 years already – where has the time gone! We are very proud to be part of the community here and grateful to be part of such a strong local community in the heart of Dyffryn Nantlle. 💛

Ydych chi wedi darfod yn y Brifysgol? Ac yn chwilio am eich her nesaf.Beth am ymuno â ni yma yn Lloyd Evans & Hughes.  C...
01/06/2026

Ydych chi wedi darfod yn y Brifysgol? Ac yn chwilio am eich her nesaf.
Beth am ymuno â ni yma yn Lloyd Evans & Hughes. Cynllun posibl mewn lle i ddatblygu o Hyfforddai Haf i Gyfreithiwr dan Hyfforddiant.
Cysyllwch â Sara am fwy o wybodaeth
[email protected]
This is a job opportunity whereby it is essential that you are a Welsh speaker.

Rydym yn falch o gefnogi Tim Rygbi dan 12 Morladron! Ewch amdani dydd Sul a dewch a’r blat adref!We are proud to support...
30/04/2026

Rydym yn falch o gefnogi Tim Rygbi dan 12 Morladron! Ewch amdani dydd Sul a dewch a’r blat adref!

We are proud to support Morladron under 12 Rugby Team. Go for it on Sunday and bring the plate home!

10/04/2026

Address

10 Heol Y Dwr, Penygroes
Caernarfon
LL546LR

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 4pm

Telephone

+441286881078

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyfreithwyr Lloyd Evans & Hughes Solicitors posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Category